28 Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y mae'r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.
29 Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dos ymaith: aeth y cythraul allan o'th ferch.
30 Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd fyned o'r cythraul allan, a'i merch wedi ei bwrw ar y gwely.
31 Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilea, trwy ganol terfynau Decapolis.
32 A hwy a ddygasant ato un byddar, ag atal dywedyd arno; ac a atolygasant iddo ddodi ei law arno ef.
33 Ac wedi iddo ei gymryd ef o'r neilltu allan o'r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â'i dafod ef;
34 A chan edrych tua'r nef, efe a ochneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Effatha, hynny yw, Ymagor.