1 Yn y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i'w fwyta, y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt,
2 Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta:
3 Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i'w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai ohonynt a ddaeth o bell.
4 A'i ddisgyblion ef a'i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni'r rhai hyn â bara yma yn yr anialwch?
5 Ac efe a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith.
6 Ac efe a orchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a'u torrodd hwynt, ac a'u rhoddes i'w ddisgyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau; a gosodasant hwynt gerbron y bobl.
7 Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi'r rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt.