18 A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio?
19 Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fyny? Dywedasant wrtho, Deuddeg.
20 A phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil, llonaid pa sawl basged o friwfwyd a godasoch i fyny? A hwy a ddywedasant, Saith.
21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?
22 Ac efe a ddaeth i Fethsaida; a hwy a ddygasant ato un dall, ac a ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef,
23 Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a'i tywysodd ef allan o'r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.
24 Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio.