22 Ac efe a ddaeth i Fethsaida; a hwy a ddygasant ato un dall, ac a ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef,
23 Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a'i tywysodd ef allan o'r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.
24 Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio.
25 Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fyny: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur.
26 Ac efe a'i hanfonodd ef adref, i'w dŷ, gan ddywedyd, Na ddos i'r dref, ac na ddywed i neb yn y dref.
27 A'r Iesu a aeth allan, efe a'i ddisgyblion, i drefi Cesarea Philipi: ac ar y ffordd efe a ofynnodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?
28 A hwy a atebasant, Ioan Fedyddiwr; a rhai, Eleias; ac eraill, Un o'r proffwydi.