26 Ac efe a'i hanfonodd ef adref, i'w dŷ, gan ddywedyd, Na ddos i'r dref, ac na ddywed i neb yn y dref.
27 A'r Iesu a aeth allan, efe a'i ddisgyblion, i drefi Cesarea Philipi: ac ar y ffordd efe a ofynnodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?
28 A hwy a atebasant, Ioan Fedyddiwr; a rhai, Eleias; ac eraill, Un o'r proffwydi.
29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw'r Crist.
30 Ac efe a orchmynnodd iddynt na ddywedent i neb amdano.
31 Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a'i wrthod gan yr henuriaid, a'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi.
32 A'r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phedr a ymaflodd ynddo, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.