35 Canys pwy bynnag a fynno gadw ei einioes, a'i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a'r efengyl, hwnnw a'i ceidw hi.
36 Canys pa lesâd i ddyn, os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?
37 Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?
38 Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau yn yr odinebus a'r bechadurus genhedlaeth hon; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad, gyda'r angylion sanctaidd.