4 A'i ddisgyblion ef a'i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni'r rhai hyn â bara yma yn yr anialwch?
5 Ac efe a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith.
6 Ac efe a orchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a'u torrodd hwynt, ac a'u rhoddes i'w ddisgyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau; a gosodasant hwynt gerbron y bobl.
7 Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi'r rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt.
8 A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o'r briwfwyd gweddill, saith fasgedaid.
9 A'r rhai a fwytasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a'u gollyngodd hwynt ymaith.
10 Ac yn y man, wedi iddo fyned i long gyda'i ddisgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha.