7 Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi'r rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt.
8 A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o'r briwfwyd gweddill, saith fasgedaid.
9 A'r rhai a fwytasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a'u gollyngodd hwynt ymaith.
10 Ac yn y man, wedi iddo fyned i long gyda'i ddisgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha.
11 A'r Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan geisio ganddo arwydd o'r nef, gan ei demtio.
12 Yntau, gan ddwys ochneidio yn ei ysbryd, a ddywedodd, Beth a wna'r genhedlaeth yma yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i'r genhedlaeth yma.
13 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth i'r llong drachefn, ac a dynnodd ymaith i'r lan arall.