2 Ac wedi chwe diwrnod, y cymerth yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a'u dug hwynt i fynydd uchel, eu hunain o'r neilltu: ac efe a weddnewidiwyd yn eu gŵydd hwynt.
3 A'i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid iawn fel eira; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu.
4 Ac ymddangosodd iddynt Eleias, gyda Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â'r Iesu.
5 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Eleias un.
6 Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu.
7 A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o'r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab; gwrandewch ef.
8 Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyda hwynt.