39 A'r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi.
40 Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu ni y mae.
41 Canys pwy bynnag a roddo i chwi i'w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy.
42 A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a'i daflu i'r môr.
43 Ac os dy law a'th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i'r tân anniffoddadwy:
44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.
45 Ac os dy droed a'th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern, i'r tân anniffoddadwy: