43 Ac os dy law a'th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i'r tân anniffoddadwy:
44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.
45 Ac os dy droed a'th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern, i'r tân anniffoddadwy:
46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.
47 Ac os dy lygad a'th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern:
48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.
49 Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a helltir â halen.