2 Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd!Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin,
3 ac arogl dy bersawr mor hyfryd.Rwyt fel yr olew persawrus gorau –does dim syndod fod merched ifancyn dy garu di.
4 Tyrd, cymer fi gyda ti;gad i ni frysio! Fy mrenin,dos â fi i dy ystafell wely.Gad i ni fwynhau a chael pleser;mae profi gwefr dy gyffyrddiadyn well na gwin.Mae'n ddigon teg fod merched ifancyn dy garu di.
5 Ferched Jerwsalem,Mae fy nghroen yn ddu ond dw i'n hardd –yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar,a hardd fel llenni palas Solomon.
6 Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddua'r haul wedi rhoi croen tywyll i mi.Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi,a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd;ond methais ofalu amdana i fy hun.
7 Fy nghariad, dywed wrtho i,Ble rwyt ti'n arwain dy ddefaid?Ble fyddan nhw'n gorffwys ganol dydd?Dywed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêla chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau.
8 O'r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod,dilyn olion traed y praidda bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid.