1 Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd,o ferch fonheddig.Mae dy gluniau mor siapus –fel gemwaith gan grefftwr medrus.
2 Mae dy wain ddirgel fel cwpan gronyn llawn o'r gwin cymysg gorau.Mae dy fol fel pentwr o wenitha chylch o lilïau o'i gwmpas.
3 Mae dy fronnau yn berffaithfel dwy gasél ifanc, efeilliaid.
4 Mae dy wddf fel tŵr o ifori,a'th lygaid fel llynnoedd Cheshbonger mynedfa Bath-rabbîm.Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanussy'n wynebu dinas Damascus.
5 Ti'n dal dy ben yn uchelfel Mynydd Carmelac mae dy wallt hardd fel edafedd drudyn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi.
6 O! rwyt mor hardd! Mor hyfryd!Ti'n fy hudo, fy nghariad!
7 Ti'n dal fel coeden balmwydd,a'th fronnau'n llawn fel ei sypiau o ddatys.
8 Dw i am ddod a dringo'r goedena gafael yn ei ffrwythau.Mae dy fronnau fel sypiau o rawnwin,a'u sawr yn felys fel afalau.
9 Mae dy gusanau fel y gwin gorauyn llifo'n rhydd ar fy ngwefusauwrth i ni fynd i gysgu.
10 Fy nghariad piau fi,ac mae f'eisiau.
11 Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd i'r caeau;gad i ni dreulio'r nos rhwng y blodau henna.
12 Gad i ni godi'n gynnara mynd lawr i'r gwinllannoedd,i weld os ydy'r winwydden wedi blaguroa'u blodau wedi agor;ac i weld os ydy'r pomgranadau'n blodeuo –yno gwnaf roi fy hun i ti.
13 Yno bydd persawr hyfryd y mandragorauyn llenwi'r awyr,a danteithion pleser wrth ein drysau –y cwbl dw i wedi ei gadwi'w rannu gyda ti fy nghariad.