Caniad Solomon 8 BNET

1 O na fyddet ti fel brawd bach i mi,wedi ei fagu ar fron fy mam;byddwn yn dy gusanu di'n agored,a fyddai neb yn meddwl yn ddrwg amdana i.

2 Af â ti i dŷ fy mam,yr un ddysgodd bopeth i mi.Rhof i ti win yn gymysg â pherlysiau;gwin melys fy mhomgranadau.

3 Mae ei law chwith dan fy mhen,a'i law dde yn fy anwesu.

4 Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch:Pam trïo cyffroi cariad rhywiolcyn ei fod yn barod?

Cerdd i gloi

5 Pwy sy'n dod o gyfeiriad yr anialwchyn pwyso ar fraich ei chariad?Cynhyrfais di dan y goeden afalau.Dyna ble gwnaeth dy fam dy genhedlu,a dyna ble gest ti dy eni.

6 Gosod fi fel sêl ar dy galon,fel sêl-fodrwy ar dy law.Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth,ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â'r bedd.Mae ei fflamau'n fflachio'n wyllt,fel tân sy'n llosgi'n wenfflam.

7 All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad;all llifogydd mo'i ysgubo i ffwrdd.Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano,byddai'n ddim byd ond testun sbort.

8 Mae gynnon ni chwaer facha'i bronnau heb dyfu.Beth wnawn ni i'w helpupan gaiff ei haddo i'w phriodi?

9 Os ydy hi'n saff fel wal,gallwn ei haddurno gyda thyrau arian!Os ydy hi fel drws,gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd!

10 Roeddwn i fel wal,ond bellach mae fy mronnau fel tyrau,felly dw i'n gwbl aeddfed yn ei olwg e.

11 Roedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon,a rhoddodd y winllan ar rent i denantiaid.Byddai pob un yn talu mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.

12 Mae'r mil o ddarnau arian i ti Solomon,a dau gant i'r rhai sy'n gofalu am ei ffrwyth;ond mae fy ngwinllan i i mi'n unig.

13 Ti sy'n aros yn y gerddi,mae yna ffrindiau'n gwrando am dy lais;ond gad i mi fod yr un sy'n ei glywed.

14 Brysia, fy nghariad! –bydd fel gasél neu garw ifancar fynyddoedd y perlysiau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8