Caniad Solomon 6 BNET

1 Ble'r aeth dy gariad, ti'r harddaf o ferched?Ble'r aeth e?Gad i ni chwilio amdano gyda'n gilydd.

2 Mae nghariad wedi mynd i lawr i'w ardd –i'w welyau o berlysiau.Mae wedi mynd i bori yn y gerddi,a chasglu'r lilïau.

3 Fy nghariad piau fi, a fi piau nghariad;mae e'n pori yng nghanol y lilïau.

Y bumed gerdd

4 F'anwylyd, rwyt ti'n hardd fel dinas Tirtsa,ac mor hyfryd â Jerwsalem.Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!

5 Paid edrych arna i –mae dy lygaid yn fy aflonyddu!Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifryn dod i lawr o fynydd Gilead.

6 Mae dy ddannedd yn wynfel rhes o ddefaid newydd eu golchi.Maen nhw i gyd yn berffaith;does dim un ar goll.

7 Tu ôl i'r fêl mae dy fochaua'u gwrid fel pomgranadau.

8 Gallwn gael chwe deg brenhines,wyth deg o bartneriaid,a merched ifanc di-rif!

9 Ond mae hi'n unigryw,fy ngholomen berffaith.Merch arbennig ei mam;hoff un yr un â'i cenhedlodd.Mae pob merch ifanc sy'n ei gweldyn ei hedmygu;Mae pob brenhines a chariadyn canu am ei harddwch:

10 “Pwy ydy hon sy'n codi fel y wawr?Pwy ydy hi? – mor hardd â'r lleuad llawn,mor bur â phelydrau'r haul.Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!”

11 Es i lawr i'r berllan lle mae'r coed cnau,i weld y tyfiant yn y dyffryn;i weld a oedd y winwydden wedi blaguro,a'r pomgranadau'n blodeuo.

12 Roeddwn wedi cynhyrfu'n lân.Tyrd, rho fyrr dy gariad i mi,o ferch fy mhobl fonheddig.

13 Tyrd yma! Tyrd yma ti'r un berffaith!Tyrd yma! Tyrd yma i mi edrych arnat ti.Pam? Fyddet ti am edrych arna i, dy un berffaith,fel un yn dawnsio yng nghanol y gwersyll?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8