7 Fy nghariad, dywed wrtho i,Ble rwyt ti'n arwain dy ddefaid?Ble fyddan nhw'n gorffwys ganol dydd?Dywed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêla chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau.
8 O'r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod,dilyn olion traed y praidda bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid.
9 F'anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddafsy'n tynnu cerbydau'r Pharo.
10 Mae tlysau ar dy fochau hardd,a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf.
11 Dw i am roi tlysau aur i ti,wedi eu haddurno ag arian.
12 Tra roedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely,roedd arogl fy mhersawr yn llenwi'r awyr.
13 Mae fy nghariad fel cwdyn o fyrr hyfrydyn gorwedd trwy'r nos rhwng fy mronnau.