1 Un blodyn saffrwn ar wastatir Saronydw i; dim ond lili fach o'r dyffryn.
2 F'anwylyd, o'i gymharu â merched eraillrwyt ti fel lili yng nghanol mieri.
3 Fy nghariad, o'i gymharu â dynion eraillrwyt ti fel coeden afalauyng nghanol y goedwig.Mae'n hyfryd cael eistedd dan dy gysgod,ac mae dy ffrwyth â'i flas mor felys.
4 Aeth â fi i mewn i'r gwindya'm gorchuddio â'i gariad.
5 Helpwch fi! Adfywiwch figyda ffrwythau melys ac afalau –dw i'n glaf o gariad.
6 Mae ei law chwith dan fy mhen,a'i law dde yn fy anwesu.