10 Mae'n galw arna i:“F'anwylyd, tyrd!Gad i ni fynd, fy un hardd.
11 Edrych! Mae'r gaeaf drosodd;mae'r glaw trwm wedi hen fynd.
12 Mae blodau gwyllt i'w gweld ym mhobman,y tymor pan mae'r cread yn canua cŵan y durtur i'w glywed drwy'r wlad.
13 Mae'r ffrwyth ar y coed ffigys yn aeddfedua'r blodau ar y gwinwydd yn arogli'n hyfryd.F'anwylyd, tyrd!Gad i ni fynd, fy un hardd.”
14 Fy ngholomen, rwyt o'm cyrraeddo'r golwg yn holltau'r graiga'r ogofâu ar y clogwyni!Gad i mi dy welda chlywed dy lais;mae sŵn dy lais mor swynol,a'th olwg mor ddeniadol.
15 Daliwch lwynogod; y llwynogod bachsydd am ddifetha gwinllannoedd –a'n gwinllannoedd yn blodeuo.
16 Fi piau nghariad, a fe piau fi;mae e'n pori yng nghanol y lilïau.