1 Wrth orwedd ar fy ngwely'n y nosbyddai gen i hiraeth am fy nghariad;dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
2 “Dw i'n mynd i godi i edrych amdano'n y dre –crwydro'r strydoedd a'r sgwariauyn chwilio am fy nghariad.”Dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
3 Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweldwrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre.Gofynnais, “Welsoch chi fy nghariad?”
4 Prin roeddwn wedi eu pasiopan ddes i o hyd i'm cariad!Gafaelais ynddo'n dynn a gwrthod ei ollwngnes mynd ag e i dŷ fy mam,i'w hystafell wely.