4 Prin roeddwn wedi eu pasiopan ddes i o hyd i'm cariad!Gafaelais ynddo'n dynn a gwrthod ei ollwngnes mynd ag e i dŷ fy mam,i'w hystafell wely.
5 Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnocho flaen y gasél a'r ewig gwyllt:Peidiwch trïo cyffroi cariad rhywiolnes mae'n barod.
6 Beth sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch,yn codi llwch fel colofnau o fwg?Fel mwg yr arogldarth yn codi o'r allor –myrr a thus a phob powdr persawrussydd ar werth gan fasnachwyr teithiol.
7 Edrychwch! Soffa-gludo Solomon ydy hi!Mae chwe deg o filwyr o'i gwmpas –arwyr dewr Israel.
8 Mae gan bob un ei gleddyf yn barod,ac maen nhw wedi eu hyfforddi i ryfela.Mae cleddyf pob un ar ei gluni'w amddiffyn rhag peryglon y nos.
9 Mae gan Solomon gadair gludowedi ei gwneud o goed o Libanus.
10 Mae ei pholion o ariana'i ffrâm o aur;ei sedd o ddefnydd porffora'r tu mewn wedi ei addurno â chariad.