1 O, rwyt mor hardd f'anwylyd!O, rwyt mor hardd!Mae dy lygaid fel colomennody tu ôl i'r fêl.Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifryn dod i lawr o fynydd Gilead.
2 Mae dy ddannedd yn wynfel rhes o ddefaid newydd eu cneifio a'u golchi.Maen nhw i gyd yn berffaith;does dim un ar goll.
3 Mae dy wefusau fel edau goch,a'th geg mor siapus.Tu ôl i'r fêl mae dy fochaua'u gwrid fel pomgranadau.
4 Mae dy wddf fel tŵr Dafydda'r rhesi o gerrig o'i gwmpas;mil o darianau yn hongian arno,fel arfau milwyr arwrol.
5 Mae dy fronnau yn berffaithfel dwy gasél ifanc, efeilliaidyn pori ymysg y lilïau.
6 Rhaid i mi fynd a dringomynydd myrr a bryn thus,ac aros yno hyd nes iddi wawrioac i gysgodion y nos ddiflannu.
7 Mae popeth amdanat mor hardd f'anwylyd!Ti'n berffaith!