8 Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad,tyrd gyda mi o fryniau Libanus.Tyrd i lawr o gopa Amana,o ben Senir, sef copa Hermon;Tyrd i lawr o ffeuau'r llewoda lloches y llewpard.
9 Ti wedi cipio fy nghalon, ferch annwyl, fy nghariad.Ti wedi cipio fy nghalon gydag un edrychiad,un em yn dy gadwyn.
10 Mae dy gyffyrddiad mor hyfryd, ferch annwyl, fy nghariad.Mae dy anwesu cariadus gymaint gwell na gwin,ac arogl dy bersawr yn well na pherlysiau.
11 Mae dy gusan yn felys fy nghariad,yn diferu fel diliau mêl.Mae mêl a llaeth dan dy dafod,ac mae sawr dy ddillad fel persawr Libanus.
12 Fy merch annwyl, fy nghariad –rwyt fel gardd breifat dan glo;yn ffynnon gaiff neb yfed ohoni.
13 Rwyt yn ardd baradwysaidd o bomgranadau,yn llawn o'r ffrwyth gorau.Gardd bersawrus hudoluso henna hyfryd,
14 nard a saffrwn,sbeisiau pêr a sinamonthus o wahanol fathau,myrr ac aloes –pob un o'r perlysiau drutaf.