1 Dw i'n dod i'm gardd, ferch annwyl, fy nghariad –i gasglu fy myrr a'm perlysiau,i flasu y diliau a'r mêl,ac i yfed y gwin a'r llaeth.Mwynhewch y wledd gariadon!Yfwch a meddwi ar anwesu a charu!
2 Roeddwn yn gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro.Ust! Llais fy nghariad; mae'n curo –“Agor i mi ddod i mewn, f'anwylyd,fy nghariad, fy ngholomen berffaith.Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith,a'm pen yn llaith gan niwl y nos.”
3 “Ond dw i'n noeth, heb ddim amdana i.Ti am i mi wisgo eto wyt ti?A dw i wedi golchi fy nhraed.Oes rhaid i mi eu baeddu eto?”
4 Yna gwthiodd ei law i agor y drws,a teimlais wefr yn mynd trwyddo i.
5 Codais i'w adael i mewn;roedd fy nwylo'n diferu o fyrr –roedd y myrr yn llifo i lawr fy myseddpan afaelais yn yr handlen.
6 Agorais y drws i'm cariad,ond roedd e wedi troi a mynd!Suddodd fy nghalon o'm mewn pan aeth.Chwiliais amdano, ond methu ei gael;Gelwais arno, ond doedd dim ateb.