1 O na fyddet ti fel brawd bach i mi,wedi ei fagu ar fron fy mam;byddwn yn dy gusanu di'n agored,a fyddai neb yn meddwl yn ddrwg amdana i.
2 Af â ti i dŷ fy mam,yr un ddysgodd bopeth i mi.Rhof i ti win yn gymysg â pherlysiau;gwin melys fy mhomgranadau.
3 Mae ei law chwith dan fy mhen,a'i law dde yn fy anwesu.
4 Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch:Pam trïo cyffroi cariad rhywiolcyn ei fod yn barod?
5 Pwy sy'n dod o gyfeiriad yr anialwchyn pwyso ar fraich ei chariad?Cynhyrfais di dan y goeden afalau.Dyna ble gwnaeth dy fam dy genhedlu,a dyna ble gest ti dy eni.
6 Gosod fi fel sêl ar dy galon,fel sêl-fodrwy ar dy law.Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth,ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â'r bedd.Mae ei fflamau'n fflachio'n wyllt,fel tân sy'n llosgi'n wenfflam.