3 Mae ei law chwith dan fy mhen,a'i law dde yn fy anwesu.
4 Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch:Pam trïo cyffroi cariad rhywiolcyn ei fod yn barod?
5 Pwy sy'n dod o gyfeiriad yr anialwchyn pwyso ar fraich ei chariad?Cynhyrfais di dan y goeden afalau.Dyna ble gwnaeth dy fam dy genhedlu,a dyna ble gest ti dy eni.
6 Gosod fi fel sêl ar dy galon,fel sêl-fodrwy ar dy law.Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth,ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â'r bedd.Mae ei fflamau'n fflachio'n wyllt,fel tân sy'n llosgi'n wenfflam.
7 All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad;all llifogydd mo'i ysgubo i ffwrdd.Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano,byddai'n ddim byd ond testun sbort.
8 Mae gynnon ni chwaer facha'i bronnau heb dyfu.Beth wnawn ni i'w helpupan gaiff ei haddo i'w phriodi?
9 Os ydy hi'n saff fel wal,gallwn ei haddurno gyda thyrau arian!Os ydy hi fel drws,gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd!