6 Gosod fi fel sêl ar dy galon,fel sêl-fodrwy ar dy law.Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth,ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â'r bedd.Mae ei fflamau'n fflachio'n wyllt,fel tân sy'n llosgi'n wenfflam.
7 All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad;all llifogydd mo'i ysgubo i ffwrdd.Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano,byddai'n ddim byd ond testun sbort.
8 Mae gynnon ni chwaer facha'i bronnau heb dyfu.Beth wnawn ni i'w helpupan gaiff ei haddo i'w phriodi?
9 Os ydy hi'n saff fel wal,gallwn ei haddurno gyda thyrau arian!Os ydy hi fel drws,gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd!
10 Roeddwn i fel wal,ond bellach mae fy mronnau fel tyrau,felly dw i'n gwbl aeddfed yn ei olwg e.
11 Roedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon,a rhoddodd y winllan ar rent i denantiaid.Byddai pob un yn talu mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.
12 Mae'r mil o ddarnau arian i ti Solomon,a dau gant i'r rhai sy'n gofalu am ei ffrwyth;ond mae fy ngwinllan i i mi'n unig.