9 Ar y diwrnod hwnnw bydda i yn cosbi pawbsy'n neidio dros y stepen drws,ac yn llenwi palas eu meistrgyda chyfoeth wedi ei ddwyn trwy drais a gormes.”
10 “Ar y diwrnod hwnnw hefyd,” meddai'r ARGLWYDD,“bydd sŵn gweiddi wrth Giât y Pysgod,a sgrechian o ran newydd y ddinas;bydd twrw mawr yn dod o'r bryniau.
11 Udwch, chi sy'n oedi yn y farchnad,achos bydd y masnachwyr wedi mynd,a'r rhai sy'n trin arian wedi eu taflu allan.
12 Bryd hynny, bydda i'n chwilio drwy Jerwsalem gyda lampau,ac yn cosbi'r rhai sy'n hunanfodlon a di-hid,sy'n meddwl, ‘Fydd yr ARGLWYDD yn gwneud dim byd – na da na drwg.’
13 Bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn,a'u tai yn cael eu chwalu.Maen nhw'n adeiladu tai newydd,ond gân nhw ddim byw ynddyn nhw.Maen nhw'n plannu gwinllannoeddond gân nhw ddim yfed y gwin.”
14 Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos;y dydd mawr – bydd yma'n fuan!Bydd sŵn chwerw i'w glywed y diwrnod hwnnw;sŵn milwyr cryf yn gweiddi crïo.
15 Bydd yn ddydd i Dduw fod yn ddig.Bydd yn ddiwrnod o helynt a gofid;yn ddiwrnod o ddifrod a dinistr.Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;diwrnod o gymylau duon bygythiol.