1 Dyma ddangosodd y Meseia Iesu am beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan. Duw ddangosodd hyn iddo, i'w rannu gyda'r rhai sy'n ei ddilyn a'i wasanaethu. Anfonodd ei angel ata i ei was Ioan,
2 a dw i'n gallu tystio fy mod i wedi gweld y cwbl sydd yma. Mae'n neges oddi wrth Dduw – yn dystiolaeth sydd wedi ei roi gan y Meseia Iesu ei hun.
3 Bydd y person sy'n darllen y neges broffwydol hon i'r eglwys yn cael ei fendithio'n fawr. A hefyd pawb sy'n gwrando ar y neges yn cael ei darllen, ac yna'n gwneud beth mae'n ei ddweud. Mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos.
4 Ioan sy'n ysgrifennu,At y saith eglwys yn nhalaith Asia:Dw i'n gweddïo y byddwch yn profi haelioni rhyfeddol a heddwch dwfn gan Dduw, yr Un sydd, ac oedd ac sy'n mynd i ddod; gan yr Ysbryd cyflawn perffaith sydd o flaen yr orsedd;