Datguddiad 8 BNET

Y seithfed sêl a'r llestr aur

1 Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, aeth pobman yn y nefoedd yn hollol dawel am tua hanner awr.

2 Wedyn gwelais utgyrn yn cael eu rhoi i'r saith angel sy'n sefyll o flaen Duw.

3 Yna dyma angel arall yn dod, ac yn mynd i sefyll wrth yr allor. Roedd ganddo lestr aur yn ei ddwylo i losgi arogldarth. Dyma bentwr o arogldarth yn cael ei roi iddo, i'w losgi ar yr allor aur o flaen yr orsedd, ac i'w gyflwyno i Dduw gyda gweddïau ei bobl.

4 Roedd mwg yr arogldarth a gweddïau pobl Dduw yn codi o law yr angel at Dduw.

5 Yna dyma'r angel yn llenwi'r llestr gyda marwor o'r allor ac yna'n ei daflu i lawr i'r ddaear; ac roedd sŵn taranau a mellt a daeargryn.

Yr Utgyrn

6 Dyma'r saith angel oedd â'r saith utgorn yn paratoi i'w canu.

7 Dyma'r angel cyntaf yn canu ei utgorn, a dyma genllysg a thân wedi ei gymysgu â gwaed yn cael ei hyrddio ar y ddaear. Cafodd un rhan o dair o'r ddaear ei llosgi, a'r coed a'r holl blanhigion yn y rhan yna o'r byd.

8 Dyma'r ail angel yn canu ei utgorn, a dyma rywbeth oedd yn edrych yn debyg i losgfynydd enfawr yn ffrwydro ac yn cael ei daflu i'r môr. Trodd un rhan o dair o'r môr yn waed,

9 lladdwyd un rhan o dair o'r creaduriaid byw yn y môr, a dinistriwyd un rhan o dair o'r llongau.

10 Dyma'r trydydd angel yn canu ei utgorn, a syrthiodd seren enfawr o'r awyr. Roedd yn llosgi'n fflamau wrth ddisgyn. Syrthiodd ar un rhan o dair o'r afonydd a'r ffynhonnau dŵr.

11 ‛Wermod‛ oedd enw'r seren, a trodd un rhan o dair o'r dŵr yn chwerw. Y canlyniad oedd fod llawer o bobl wedi marw am fod y dŵr wedi troi'n chwerw.

12 Dyma'r pedwerydd angel yn canu ei utgorn, a dyma un rhan o dair o'r haul a'r lleuad a'r sêr yn cael eu taro. Dyma un rhan o dair ohonyn nhw'n troi'n dywyll. Doedd dim golau am un rhan o dair o'r dydd, na'r nos chwaith.

13 Wedyn gwelais eryr yn hedfan yn uchel yn yr awyr, a'i glywed yn gweiddi'n uchel: “Gwae! Gwae! Gwae pawb sy'n perthyn i'r ddaear, o achos beth sy'n mynd i ddigwydd pan fydd y tri angel arall yn canu eu hutgyrn!”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22