1 Gwelais arwydd arall yn y nefoedd, un anhygoel a rhyfeddol: Saith angel gyda'r saith pla olaf. Y plâu yma fyddai'r mynegiant olaf o ddigofaint Duw.
2 A gwelais rywbeth oedd yn edrych yn debyg i fôr o wydr a thân fel petai'n ymledu drwyddo. Ar lan y môr o wydr safai'r bobl oedd wedi ennill y frwydr yn erbyn yr anghenfil a'i ddelw, a hefyd y rhif oedd yn cyfateb i'w enw. Roedd ganddyn nhw delynau roedd Duw wedi eu rhoi iddyn nhw,
3 ac roedden nhw'n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:“Mae popeth rwyt yn ei wneudmor anhygoel a rhyfeddolArglwydd Dduw Hollalluog.Mae beth rwyt yn ei wneudyn gyfiawn a theg,Frenin pob oes.
4 Pwy fyddai ddim yn dy barchu di,a chanmol dy enw di, Arglwydd?Oherwydd dim ond ti sy'n sanctaidd.Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dodi addoli o dy flaen di,oherwydd mae'n amlwgfod beth wnaethost ti yn gyfiawn.”
5 Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‛pabell y dystiolaeth‛, ar agor yn y nefoedd.
6 Allan ohoni daeth y saith angel gyda'r saith pla. Roedden nhw wedi eu gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol.
7 Wedyn dyma un o'r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o'r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy'n byw am byth bythoedd.
8 Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi'r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i'r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd.