Datguddiad 14 BNET

Yr Oen a'r 144,000

1 Edrychais wedyn, a dyma welais: yr Oen yn sefyll ar Fynydd Seion. Roedd cant pedwar deg pedwar mil o bobl gydag e, ac roedd ei enw e ac enw ei Dad ar eu talcennau.

2 Yna clywais sŵn o'r nefoedd oedd yn debyg i raeadrau o ddŵr neu daran uchel. Sŵn telynorion yn canu eu telynau oedd e.

3 Dyna ble roedden nhw, yn canu cân newydd o flaen yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol. Dim ond y cant pedwar deg pedwar mil o bobl oedd wedi eu rhyddhau o'r ddaear oedd yn gallu dysgu'r gân hon.

4 Dyma'r rhai sydd wedi cadw eu hunain yn bur, ac heb halogi eu hunain gyda gwragedd. Maen nhw'n dilyn yr Oen ble bynnag mae e'n mynd. Maen nhw wedi cael eu prynu i ryddid o blith y ddynoliaeth a'u cyflwyno i Dduw a'r Oen fel ffrwythau cyntaf y cynhaeaf.

5 Wnaethon nhw ddim dweud celwydd. Maen nhw'n gwbl ddi-fai.

Y tri angel

6 Wedyn gwelais angel arall yn hedfan yn uchel yn yr awyr, ac roedd ganddo neges dragwyddol i'w chyhoeddi i bawb sy'n byw ar y ddaear; i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.

7 Roedd yn cyhoeddi'n uchel, “Ofnwch Dduw, a rhoi'r clod iddo! Mae'r amser iddo farnu wedi dod. Addolwch yr Un greodd y nefoedd, y ddaear, y môr a'r ffynhonnau dŵr!”

8 Dyma ail angel yn ei ddilyn gan gyhoeddi hyn: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! – yr un wnaeth i'r holl genhedloedd yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt.”

9 Yna daeth trydydd angel ar eu hôl yn cyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, ac sydd â'i farc ar eu talcen neu ar eu llaw,

10 bydd rhaid iddyn nhw yfed gwin digofaint Duw. Mae'n win cryf ac wedi ei dywallt i gwpan ei lid. Byddan nhw'n cael eu poenydio gyda thân a brwmstan yng ngwydd yr angylion sanctaidd a'r Oen.

11 A bydd y mwg o'r tân sy'n eu poenydio yn codi am byth bythoedd. Fydd dim gorffwys o gwbl i'r rhai sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, nac i unrhyw un sydd wedi ei farcio â'i enw.”

12 Mae hyn yn dangos fod dycnwch pobl Dduw yn golygu bod yn ufudd i orchmynion Duw ac aros yn ffyddlon i Iesu.

13 Wedyn clywais lais o'r nefoedd yn dweud: “Ysgrifenna hyn: Mae'r bobl sydd wedi marw ar ôl dod i berthyn i'r Arglwydd wedi eu bendithio'n fawr!”“Ydyn wir!” meddai'r Ysbryd, “Byddan nhw'n gorffwys o'u gwaith caled. A bydd cofnod o beth wnaethon nhw yn mynd ar eu holau.”

Cynhaeaf y ddaear

14 Edrychais eto, ac roedd cwmwl gwyn o'm blaen i. Roedd un “oedd yn edrych fel person dynol” yn eistedd ar y cwmwl; roedd ganddo goron o aur am ei ben a chryman miniog yn ei law.

15 Yna daeth angel arall allan o'r deml a galw'n uchel ar yr un oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Defnyddia dy gryman i ddechrau medi'r cynhaeaf! Mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed ac mae'n amser medi.”

16 Felly dyma'r un oedd yn eistedd ar y cwmwl yn defnyddio'i gryman ar y ddaear ac yn casglu'r cynhaeaf.

17 Daeth angel arall allan o'r deml yn y nefoedd, ac roedd ganddo yntau gryman miniog.

18 Yna daeth angel arall eto allan o'r cysegr (yr un oedd yn gofalu am y tân ar yr allor). Galwodd yn uchel ar yr angel oedd â'r cryman miniog ganddo, “Defnyddia dy gryman i gasglu y sypiau grawnwin o winwydden y ddaear. Mae ei ffrwyth yn aeddfed.”

19 Felly dyma'r angel yn defnyddio'i gryman ar y ddaear, ac yn casglu'r cynhaeaf grawnwin a'i daflu i mewn i winwryf mawr digofaint Duw.

20 Cafodd y gwinwryf ei sathru y tu allan i waliau'r ddinas, a llifodd gwaed allan ohono. Roedd cymaint o waed nes ei fod mor uchel â ffrwynau ceffylau am bellter o tua 300 cilomedr.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22