10 Roedd hi'n ddydd Sul, ac roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân. Yn sydyn clywais lais y tu ôl i mi, yn glir fel trwmped.
11 Dyma ddwedodd: “Ysgrifenna beth weli di mewn sgrôl, a'i anfon at y saith eglwys, sef Effesus, Smyrna, Pergamus, Thyatira, Sardis, Philadelffia, a Laodicea.”
12 Dyma fi'n troi i edrych pwy oedd yn siarad â mi, a dyma beth welais i: saith canhwyllbren aur.
13 Yn eu plith roedd “un oedd yn edrych fel person dynol.” Roedd yn gwisgo mantell hir oedd yn cyrraedd at ei draed a sash aur wedi ei rwymo am ei frest.
14 Roedd ganddo lond pen o wallt oedd yn wyn fel gwlân neu eira, ac roedd sbarc yn ei lygaid fel fflamau o dân.
15 Roedd ei draed yn gloywi fel efydd mewn ffwrnais, a'i lais fel sŵn rhaeadrau o ddŵr.
16 Yn ei law dde roedd yn dal saith seren, ac roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg. Roedd ei wyneb yn disgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd.