4 Ioan sy'n ysgrifennu,At y saith eglwys yn nhalaith Asia:Dw i'n gweddïo y byddwch yn profi haelioni rhyfeddol a heddwch dwfn gan Dduw, yr Un sydd, ac oedd ac sy'n mynd i ddod; gan yr Ysbryd cyflawn perffaith sydd o flaen yr orsedd;
5 a hefyd gan y Meseia Iesu, y tyst ffyddlon, y cyntaf i gael ei eni i fywyd newydd ar ôl marw, a'r un sydd ag awdurdod dros holl frenhinoedd y ddaear. Mae'n ein caru ni, ac mae wedi marw troson ni i'n gollwng ni'n rhydd fel bod pechod ddim yn ein rheoli ni ddim mwy.
6 Mae'n teyrnasu droson ni ac wedi'n gwneud ni i gyd yn offeiriaid sy'n gwasanaethu Duw, ei Dad! Fe sy'n haeddu pob anrhydedd a nerth, am byth! Amen!
7 Edrychwch! Mae'n dod yn y cymylau! Bydd pawb yn ei weld – hyd yn oed y rhai a'i trywanodd! Bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru o'i achos e. Dyna fydd yn digwydd! Amen!
8 Mae'r Arglwydd Dduw yn dweud, “Fi ydy'r Alffa a'r Omega – Fi ydy'r Un sydd, oedd, ac sy'n mynd i ddod eto, yr Un Hollalluog.”
9 Ioan ydw i, eich cyd-Gristion. Fel chi dw innau hefyd yn dioddef, ond am fod Duw yn teyrnasu, dw i'n dal ati fel gwnaeth Iesu ei hun. Roeddwn i wedi cael fy alltudio i Ynys Patmos am gyhoeddi neges Duw a thystiolaethu am Iesu.
10 Roedd hi'n ddydd Sul, ac roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân. Yn sydyn clywais lais y tu ôl i mi, yn glir fel trwmped.