7 Edrychwch! Mae'n dod yn y cymylau! Bydd pawb yn ei weld – hyd yn oed y rhai a'i trywanodd! Bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru o'i achos e. Dyna fydd yn digwydd! Amen!
8 Mae'r Arglwydd Dduw yn dweud, “Fi ydy'r Alffa a'r Omega – Fi ydy'r Un sydd, oedd, ac sy'n mynd i ddod eto, yr Un Hollalluog.”
9 Ioan ydw i, eich cyd-Gristion. Fel chi dw innau hefyd yn dioddef, ond am fod Duw yn teyrnasu, dw i'n dal ati fel gwnaeth Iesu ei hun. Roeddwn i wedi cael fy alltudio i Ynys Patmos am gyhoeddi neges Duw a thystiolaethu am Iesu.
10 Roedd hi'n ddydd Sul, ac roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân. Yn sydyn clywais lais y tu ôl i mi, yn glir fel trwmped.
11 Dyma ddwedodd: “Ysgrifenna beth weli di mewn sgrôl, a'i anfon at y saith eglwys, sef Effesus, Smyrna, Pergamus, Thyatira, Sardis, Philadelffia, a Laodicea.”
12 Dyma fi'n troi i edrych pwy oedd yn siarad â mi, a dyma beth welais i: saith canhwyllbren aur.
13 Yn eu plith roedd “un oedd yn edrych fel person dynol.” Roedd yn gwisgo mantell hir oedd yn cyrraedd at ei draed a sash aur wedi ei rwymo am ei frest.