1 Yna gwelais angel pwerus arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd cwmwl wedi ei lapio amdano fel mantell, ac roedd enfys uwch ei ben. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a'i goesau yn edrych fel colofnau o dân.
2 Roedd ganddo sgrôl fechan agored yn ei law. Gosododd ei droed dde ar y môr a'i droed chwith ar y tir sych.
3 Galwodd allan yn uchel fel llew yn rhuo. Wrth iddo weiddi, clywyd sŵn saith taran.
4 Pan glywyd sŵn y saith taran, roeddwn ar fin ysgrifennu'r cwbl i lawr, ond clywais lais o'r nefoedd yn dweud, “Cadw beth mae'r saith taran wedi ei ddweud yn gyfrinach; paid meiddio'i ysgrifennu i lawr!”