1 Dyma wialen hir fel ffon fesur yn cael ei rhoi i mi, a dwedwyd wrtho i, “Dos i fesur teml Dduw a'r allor, a hefyd cyfri faint o bobl sy'n addoli yno.
2 Ond paid cynnwys y cwrt allanol, am fod hwnnw wedi ei roi i bobl o genhedloedd eraill. Byddan nhw'n cael rheoli'r ddinas sanctaidd am bedwar deg dau mis.
3 Yna bydda i'n rhoi awdurdod i'r ddau dyst sydd gen i, a byddan nhw'n gwisgo sachliain ac yn proffwydo am fil dau gant a chwe deg diwrnod.”
4 Nhw ydy'r ddwy goeden olewydd a'r ddwy ganhwyllbren sy'n sefyll o flaen Arglwydd y ddaear.
5 Os oes rhywun yn ceisio gwneud niwed iddyn nhw, mae tân yn dod allan o'u cegau ac yn dinistrio eu gelynion. Dyna sut mae unrhyw un sydd am wneud niwed iddyn nhw yn marw.