14 Mae'r ail drychineb wedi digwydd; ond edrychwch mae trydydd ar fin dod.
15 Dyma'r seithfed angel yn canu utgorn, ac roedd lleisiau uchel yn y nefoedd yn dweud:“Mae teyrnas y bydwedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a'i Feseia,a bydd yn teyrnasu am byth bythoedd.”
16 A dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol, oedd yn eistedd ar eu gorseddau o flaen Duw, yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw,
17 gan ddweud:“Diolch i ti, Arglwydd Dduw Hollalluog,yr Un sydd ac oedd,am gymryd yr awdurdod sydd gen tia dechrau teyrnasu.
18 Roedd y cenhedloedd wedi gwylltio; ond nawr mae'n amser i ti fod yn ddig.Mae'r amser wedi dod i farnu y rhai sydd wedi marw,ac i wobrwyo dy weision y proffwydia'th bobl dy hun, a'r rhai sy'n parchu dy enw di,yn fawr a bach –a hefyd i ddinistrio'n llwyry rhai hynny sy'n dinistrio'r ddaear.”
19 Yna dyma ddrysau teml Dduw yn y nefoedd yn agor, ac roedd modd gweld arch yr ymrwymiad y tu mewn iddi. Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn a storm fawr o genllysg.