6 Maen nhw wedi cael yr awdurdod i wneud iddi beidio glawio yn ystod y cyfnod pan maen nhw'n proffwydo; ac mae ganddyn nhw'r gallu i droi dyfroedd yn waed ac i daro'r ddaear â phlâu mor aml â maen nhw eisiau.
7 Ond pan fydd yr amser iddyn nhw dystio ar ben, bydd yr anghenfil sy'n dod allan o'r pwll diwaelod yn ymosod arnyn nhw, ac yn eu trechu a'u lladd.
8 Bydd eu cyrff yn gorwedd ar brif stryd y ddinas fawr (sy'n cael ei galw yn broffwydol yn ‛Sodom‛ ac ‛Aifft‛) – y ddinas lle cafodd eu Harglwydd nhw ei groeshoelio.
9 Am dri diwrnod a hanner bydd pobl o bob hil, llwyth, iaith a chenedl yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu claddu.
10 Bydd y bobl sy'n perthyn i'r ddaear wrth eu bodd ac yn dathlu a rhoi anrhegion i'w gilydd, am fod y ddau broffwyd yma wedi bod cymaint o boen iddyn nhw.
11 Ond, ar ôl tri diwrnod a hanner daeth anadl oddi wrth Dduw i roi bywyd ynddyn nhw, a dyma nhw'n sefyll ar eu traed. Roedd pawb welodd nhw wedi dychryn am eu bywydau.
12 Wedyn dyma nhw'n clywed llais pwerus o'r nefoedd yn dweud wrthyn nhw, “Dewch i fyny yma.” A dyma gwmwl yn eu codi nhw i fyny i'r nefoedd, tra roedd eu gelynion yn sefyll yn edrych ar y peth yn digwydd.