1 a gwelais anghenfil yn dod allan o'r môr. Roedd ganddo ddeg corn a saith pen. Roedd coron ar bob un o'i gyrn, ac enw cableddus ar bob un o'i bennau.
2 Roedd yr anghenfil yn debyg i lewpard, ond roedd ei draed fel pawennau arth a'i geg fel ceg llew. Dyma'r ddraig yn rhoi iddo ei grym a'i gorsedd a'i hawdurdod mawr.
3 Roedd un o bennau yr anghenfil yn edrych fel petai wedi derbyn anaf marwol, ond roedd yr anaf wedi cael ei iacháu. Roedd pobl y byd i gyd wedi eu syfrdanu gan hyn ac yn dilyn yr anghenfil.
4 Roedden nhw'n addoli y ddraig am mai hi oedd wedi rhoi awdurdod i'r anghenfil, ac roedden nhw hefyd yn addoli yr anghenfil. Roedden nhw'n siantio “Pwy sydd fel yr anghenfil? Does neb yn gallu ei ymladd e!”
5 Cafodd yr anghenfil siarad, ac roedd yn brolio ac yn cablu. Cafodd hawl i ddefnyddio ei awdurdod am bedwar deg dau o fisoedd.
6 Bob tro roedd yn agor ei geg roedd yn cablu Duw ac yn enllibio ei enw a'i gysegr a phawb sydd â'u cartref yn y nefoedd.
7 Cafodd ganiatâd i ryfela yn erbyn pobl Dduw ac i'w concro nhw, a cafodd awdurdod dros bob llwyth, hil, iaith a chenedl.