15 Ond hefyd cafodd y gallu i roi anadl i'r ddelw o'r anghenfil cyntaf, fel bod hwnnw'n gallu siarad a gwneud i bawb oedd yn gwrthod addoli'r ddelw gael eu lladd.
16 Roedd hefyd yn gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen – ie, pawb, yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision.
17 Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw y marc, sef enw yr anghenfil neu'r rhif sy'n cyfateb i'w enw.
18 Mae angen doethineb i ddeall hyn. Bydd y rhai sydd â dirnadaeth yn deall beth ydy ystyr rhif yr anghenfil – mae'n cynrychioli person arbennig. Y rhif ydy chwe chant chwe deg chwech.