5 Cafodd yr anghenfil siarad, ac roedd yn brolio ac yn cablu. Cafodd hawl i ddefnyddio ei awdurdod am bedwar deg dau o fisoedd.
6 Bob tro roedd yn agor ei geg roedd yn cablu Duw ac yn enllibio ei enw a'i gysegr a phawb sydd â'u cartref yn y nefoedd.
7 Cafodd ganiatâd i ryfela yn erbyn pobl Dduw ac i'w concro nhw, a cafodd awdurdod dros bob llwyth, hil, iaith a chenedl.
8 Yn wir, bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear yn addoli'r anghenfil – pawb dydy eu henwau nhw ddim wedi eu cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu (sef llyfr yr Oen gafodd ei ladd yn aberth).
9 Dylai pawb wrando'n ofalus ar hyn!
10 Y rhai sydd i gael eu caethiwo, byddan nhw'n cael eu caethiwo. Y rhai sydd i gael eu lladd â'r cleddyf, byddan nhw'n cael eu lladd â'r cleddyf. Mae hyn yn dangos bod rhaid i bobl Dduw ddangos dycnwch a bod yn ffyddlon.
11 Gwelais anghenfil arall wedyn, yn codi o'r ddaear. Roedd ganddo ddau gorn yr un fath ag oen, ond roedd yn swnio fel draig.