8 Yn wir, bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear yn addoli'r anghenfil – pawb dydy eu henwau nhw ddim wedi eu cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu (sef llyfr yr Oen gafodd ei ladd yn aberth).
9 Dylai pawb wrando'n ofalus ar hyn!
10 Y rhai sydd i gael eu caethiwo, byddan nhw'n cael eu caethiwo. Y rhai sydd i gael eu lladd â'r cleddyf, byddan nhw'n cael eu lladd â'r cleddyf. Mae hyn yn dangos bod rhaid i bobl Dduw ddangos dycnwch a bod yn ffyddlon.
11 Gwelais anghenfil arall wedyn, yn codi o'r ddaear. Roedd ganddo ddau gorn yr un fath ag oen, ond roedd yn swnio fel draig.
12 Roedd yn gweinyddu holl awdurdod yr anghenfil cyntaf ar ei ran. Roedd yn gwneud i bawb oedd yn byw ar y ddaear addoli yr anghenfil cyntaf, sef yr un â'r anaf marwol oedd wedi cael ei iacháu.
13 Roedd yn gwneud gwyrthiau anhygoel – hyd yn oed yn gwneud i dân ddisgyn o'r nefoedd i'r ddaear o flaen llygaid pawb.
14 Am ei fod yn gallu gwneud gwyrthiau ar ran yr anghenfil cyntaf, llwyddodd i dwyllo pawb oedd yn perthyn i'r ddaear. Rhoddodd orchymyn iddyn nhw godi delw er anrhydedd i'r anghenfil cyntaf oedd wedi ei anafu gan y cleddyf ac eto'n dal yn fyw.