5 Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‛pabell y dystiolaeth‛, ar agor yn y nefoedd.
6 Allan ohoni daeth y saith angel gyda'r saith pla. Roedden nhw wedi eu gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol.
7 Wedyn dyma un o'r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o'r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy'n byw am byth bythoedd.
8 Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi'r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i'r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd.