17 Dyma'r seithfed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e i'r awyr, a dyma lais uchel o'r orsedd yn y deml yn dweud, “Dyna'r diwedd!”
18 Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn mawr. Fuodd yna erioed ddaeargryn mor ofnadwy yn holl hanes y byd – roedd yn aruthrol!
19 Dyma'r ddinas fawr yn hollti'n dair, a dyma ddinasoedd y cenhedloedd i gyd yn cael eu chwalu. Cofiodd Duw beth oedd Babilon fawr wedi ei wneud a rhoddodd iddi y gwpan oedd yn llawn o win ei ddigofaint ffyrnig.
20 Diflannodd pob ynys a doedd dim mynyddoedd i'w gweld yn unman.
21 Yna dyma genllysg anferthol yn disgyn ar bobl o'r awyr – yn pwyso tua 40 cilogram yr un! Roedd y bobl yn melltithio Duw o achos y pla o genllysg, am fod y pla mor ofnadwy.