3 Yna dyma'r ail angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar y môr, a throdd fel gwaed rhywun oedd wedi marw. Dyma bopeth yn y môr yn marw.
4 Yna dyma'r trydydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar yr afonydd a'r ffynhonnau dŵr, a dyma nhw'n troi'n waed.
5 A dyma fi'n clywed yr angel oedd yn gyfrifol am y dyfroedd yn dweud:“Rwyt ti'n gyfiawn wrth gosbi fel hyn –yr Un sydd, ac oedd – yr Un Sanctaidd!
6 Maen nhw wedi tywallt gwaeddy bobl di a'th broffwydi,ac rwyt ti wedi rhoi gwaed iddyn nhw ei yfed.Dyna maen nhw yn ei haeddu!”
7 A dyma fi'n clywed rhywun o'r allor yn ateb:“Ie wir, Arglwydd Dduw Hollalluog,mae dy ddyfarniad di bob amseryn deg ac yn gyfiawn.”
8 Dyma'r pedwerydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr haul, a dyma'r haul yn cael y gallu i losgi pobl gyda'i wres.
9 Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi yn y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli'r plâu. Roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi'r clod iddo.