1 Yna gwelais angel arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd ganddo awdurdod mawr, ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear.
2 Cyhoeddodd yn uchel: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! Mae wedi troi'n gartref i gythreuliaidac yn gyrchfan i'r holl ysbrydion drwgac i bob aderyn aflan,ac i bob anifail aflan a ffiaidd.
3 Mae'r holl genhedloedd wedi yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt. Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda'r butain, ac mae pobl fusnes y ddaear wedi ennill cyfoeth mawr o'i moethusrwydd eithafol.”
4 Wedyn clywais lais arall o'r nefoedd yn dweud: “Fy mhobl, dewch allan o'r ddinas, er mwyn i chi beidio pechu gyda hi.Wedyn bydd y plâu fydd yn dod i'w chosbi hiddim yn eich cyffwrdd chi.
5 Mae ei phechodau hi yn bentwr anferth i'r nefoedd,ac mae Duw wedi cofio ei holl droseddau hi.
6 Gwna iddi hi beth mae hi wedi ei wneud i eraill; tala nôl iddi ddwywaith cymaint ag mae wedi ei wneud. Rho iddi siâr ddwbl o'i ffisig ei hun!
7 Yn lle'r ysblander a'r moethusrwydd gymerodd iddi ei hun,rho'r un mesur o boen a gofid iddi hi.Mae hi mor siŵr ohoni hi ei hun!‘Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd;fydda i ddim yn weddw,a fydd dim rhaid i mi alaru byth!’ meddai.