11 “Bydd pobl fusnes y ddaear yn crïo ac yn galaru drosti hi am fod neb yn prynu ei chargo ddim mwy –
12 cargo o aur, arian, gemau gwerthfawr a pherlau, lliain main, defnydd porffor, sidan ac ysgarlad; nwyddau o goed Sitron, pethau wedi eu gwneud o ifori, a pob math o bethau eraill wedi eu gwneud o goed gwerthfawr, o efydd, haearn ac o farmor;
13 sinamon a pherlysiau, arogldarth fel myrr a thus, hefyd gwin ac olew olewydd, blawd mân a gwenith; gwartheg, defaid, ceffylau a cherbydau; a chaethweision hefyd – ie, pobl yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid.
14 “Mae'r holl bethau roeddet ti'n dyheu amdanyn nhw wedi mynd! Dy holl gyfoeth a dy grandrwydd wedi diflannu! Fyddan nhw fyth yn dod nôl!
15 Bydd y bobl fusnes gafodd arian mawr wrth werthu'r pethau hyn iddi, yn sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef. Byddan nhw'n crïo ac yn galaru
16 ac yn gweiddi:‘Och! Och! Ti ddinas fawr!wedi dy wisgo mewn defnydd hardda gwisg o borffor ac ysgarlad,a'th addurno dy hun â thlysau o aura gemau gwerthfawr a pherlau!
17 Mae'r fath gyfoeth wedi ei ddinistrio mor sydyn!’ “Bydd capteiniaid llongau a phawb sy'n teithio ar y môr, yn forwyr a phawb arall sy'n ennill eu bywoliaeth o'r môr, yn sefyll yn bell i ffwrdd.