17 Mae'r fath gyfoeth wedi ei ddinistrio mor sydyn!’ “Bydd capteiniaid llongau a phawb sy'n teithio ar y môr, yn forwyr a phawb arall sy'n ennill eu bywoliaeth o'r môr, yn sefyll yn bell i ffwrdd.
18 Wrth weld y mwg yn codi am ei bod hi'n llosgi, byddan nhw'n gweiddi, ‘Oes dinas arall debyg i'r ddinas fawr hon?’
19 Byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau, ac yn crïo a galaru a gweiddi'n uchel:‘Och! Och! Ddinas fawr!cafodd pawb oedd ganddyn nhw longau ar y môrgyfoeth am ei bod hi mor gyfoethog!Mae hi wedi ei dinistrio mor sydyn!’
20 Bydd lawen, nefoedd, am beth sydd wedi digwydd iddi,Byddwch lawen, chi bobl Dduw, a'i gynrychiolwyr a'i broffwydi –Mae Duw wedi ei barnu hi am y ffordd wnaeth hi eich trin chi!”
21 Wedyn dyma angel pwerus yn codi anferth o garreg fawr, tebyg i faen melin mawr, a'i thaflu i'r môr; ac meddai:“Dyna sut fydd Babilon, y ddinas fawr,yn cael ei bwrw i lawr yn ffyrnig –fydd neb yn ei gweld byth mwy!
22 Fydd dim sŵn telynau na cherddorion,ffliwtiau nac utgyrn, i'w clywed ynot eto.Neb sy'n dilyn unrhyw grefft i'w weld ynot eto.Dim sŵn maen melin yn troi;
23 Dim golau lamp i'w weld;Dim sŵn gwledd briodas i'w glywed.Ti oedd y ganolfan fusnes fwyaf dylanwadol yn y byd i gyd,hudaist y cenhedloedd a'u harwain ar gyfeiliorn.