21 Wedyn dyma angel pwerus yn codi anferth o garreg fawr, tebyg i faen melin mawr, a'i thaflu i'r môr; ac meddai:“Dyna sut fydd Babilon, y ddinas fawr,yn cael ei bwrw i lawr yn ffyrnig –fydd neb yn ei gweld byth mwy!
22 Fydd dim sŵn telynau na cherddorion,ffliwtiau nac utgyrn, i'w clywed ynot eto.Neb sy'n dilyn unrhyw grefft i'w weld ynot eto.Dim sŵn maen melin yn troi;
23 Dim golau lamp i'w weld;Dim sŵn gwledd briodas i'w glywed.Ti oedd y ganolfan fusnes fwyaf dylanwadol yn y byd i gyd,hudaist y cenhedloedd a'u harwain ar gyfeiliorn.
24 Yn wir, Babilon wnaeth dywallt gwaed y proffwydi a phobl Dduw; a phawb yn y byd gafodd eu lladd ar gam.”