5 Mae ei phechodau hi yn bentwr anferth i'r nefoedd,ac mae Duw wedi cofio ei holl droseddau hi.
6 Gwna iddi hi beth mae hi wedi ei wneud i eraill; tala nôl iddi ddwywaith cymaint ag mae wedi ei wneud. Rho iddi siâr ddwbl o'i ffisig ei hun!
7 Yn lle'r ysblander a'r moethusrwydd gymerodd iddi ei hun,rho'r un mesur o boen a gofid iddi hi.Mae hi mor siŵr ohoni hi ei hun!‘Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd;fydda i ddim yn weddw,a fydd dim rhaid i mi alaru byth!’ meddai.
8 Dyna'n union pam bydd y plâu yn ei tharo'n sydyn:marwolaeth, galar a newyn.Bydd yn cael ei dinistrio gan dân,oherwydd mae'r Arglwydd Dduw sy'n ei barnu hi yn Dduw grymus!
9 “Bydd brenhinoedd y ddaear gafodd ryw gyda'r butain a rhannu ei moethusrwydd, yn crïo'n chwerw wrth weld y mwg yn codi pan gaiff ei llosgi.
10 Byddan nhw'n sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef, ac yn gweiddi:‘Och! Och! Ti ddinas fawr!Babilon, y ddinas oedd â'r fath rym! –Daeth dy ddiwedd mor sydyn!’
11 “Bydd pobl fusnes y ddaear yn crïo ac yn galaru drosti hi am fod neb yn prynu ei chargo ddim mwy –